Gwirio cerdyn ar-lein
Cwestiynau ynghylch cardiau
Os oes gennych gwestiynau ynghylch colli cerdyn, gwneud cais am gerdyn newydd neu symud cais presennol yn ei flaen, neu os hoffech gael gwybodaeth gyffredinol am y cynlluniau cerdyn, cysylltwch â pherchenogion y cynlluniau cerdyn drwy ddefnyddio’r manylion isod:
Cardiau’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu:
- Ffôn:
- 0344 994 4777
- E-bost:
- customerservice@cscs.co.uk
- Gwefan:
- www.cscs.uk.com
Cardiau’r Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu:
- Ffôn:
- 0300 999 1177 option 1
- E-bost:
- cpcs@jobcards.org
- Gwefan:
- www.nocnjobcards.org
Cardiau Cynllun Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu:
- Ffôn:
- 0844 815 7223
- E-bost:
- cisrs@jobcards.org
- Gwefan:
- www.nocnjobcards.org
Gwirio cerdyn drwy ddefnyddio’r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu neu’r adnodd Gwirio Cerdyn Ar-lein
Dylai data uwchlwytho’n awtomatig i’r Gofrestr Hyfforddiant Adeiladu a’r adnodd Gwirio Cerdyn Ar-lein o system y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a system Rhwydwaith y Coleg Agored Cenedlaethol. Fodd bynnag, oherwydd problemau technegol rhwng y systemau, nid yw manylion cyflawniadau’n cael eu huwchlwytho’n syth. Mae CITB yn gweithio gyda’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu a Rhwydwaith y Coleg Agored Cenedlaethol i ddatrys y broblem hon.
Fel mesur dros dro, gall y rhai sydd am gadarnhau eu sefyllfa o ran cerdyn wneud hynny drwy glicio ar y dolenni isod:
Cynllun Cymhwysedd Peiriannau Adeiladu a Chynllun Sgaffaldwyr y Diwydiant
Mae CITB am eich sicrhau bod modd gweld pob cyflawniad o hyd ac y bydd pob cyflawniad sydd heb gael ei lanlwytho'n cael ei lanlwytho (ni chollir unrhyw gyflawniadau).