Lleihau twyll
Cardiau twyllodrus
Mae twyll cardiau'n broblem ddifrifol i'r diwydiant adeiladu. Ein polisi yw erlyn ymddygiad twyllodrus ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i gasglu tystiolaeth a dwyn troseddwyr i gyfrif.
Rydym hefyd wedi ein hymrwymo i atal twyll.
Beth i'w wneud os ydych yn amau bod rhywun yn defnyddio cerdyn twyllodrus
- Cadwch y cerdyn os yn bosibl
- Gwnewch ffotocopïau o'r blaen a'r cefn
- Cofnodwch enw a chyfeiriad deiliad y cerdyn
- Gofynnwch i ddeiliad y cerdyn lle cafwyd y cerdyn
- Ffoniwch yr heddlu lleol ac adroddwch am y mater
- Gwrthodwch fynediad i'r safle (yn amodol ar reolau'r cwmni)
- Ar gyfer CSCS: Anfonwch gopïau o'r holl dystiolaeth at:
wedi'i nodi “CERDYN TWYLLWODRUS A AMHEUIR" â manylion ynghylch y rhif trosedd a roddwyd gan yr heddlu lleol.
- Hysbyswch CPCS gan gynnwys yr holl dystiolaeth a'r rhif trosedd a roddwyd gan yr heddlu lleol. Dylid anfon hyn at y swyddfa naill ai trwy'r post Er Sylw'r Ymchwilydd Twyll neu drwy e-bost at Report.it@citb.co.uk
- Hefyd gallwch chi e-bostio Report.it@citb.co.uk.
Bydd PCS a CSCS yn cefnogi'n llawn unrhyw erlyniad gyda thystiolaeth dechnegol a ffeithiol.
Beth i chwilio amdano ar gerdyn CSCS
Mae nifer o nodweddion diogelwch wedi'u hymgorffori mewn cardiau CSCS. Y prif bethau i chwilio amdanynt yw:-
- Dylai'r cerdyn gael hologram CSCS yn y gornel chwith uchaf. Os byddwch chi'n symud y cerdyn ychydig fe welwch y geiriau 'cynllun ardystio sgiliau adeiladu' yn y rhan adlewyrchol
- Dylai fod ffoto Modd Adnabod ar ochr dde'r cerdyn. A yw hyn yn debyg iawn i'r unigolyn o'ch blaen?
- Dylai enw deiliaid y cerdyn gael ei brintio o dan yr hologram CSCS
- Dylai rhif cofrestru deiliad y cerdyn gael ei brintio o dan eu henw ynghyd â dyddiad dod i ben y cerdyn. Mae'r rhif cofrestru yn cael ei ailadrodd ar gefn y cerdyn
- Dylai'r cerdyn naill ai gael logo arian bach 'Wedi'i Brofi ar gyfer HS ac E' mewn blwch o liw arian wrth ymyl y llun Modd Adnabod neu logo lliw aur 'Wedi'i Brofi ar gyfer HS ac E' mewn blwch lliw aur wrth ymyl y llun Modd Adnabod
- Dylai lliw'r cerdyn fynd yn union at ymyl y cerdyn. Mae gan rai ffugiadau'r hyn sy'n ymddangos fel ymyl gwyn tua blaen y cerdyn
- Dylai'r prinr a lliwiau fod yn finiog a chlir. Mae gan lawer o ffugiadau gamgymeriadau sillafu neu brint aneglur neu ddwl.
Defnyddiwch y dolenni dilynol i nodi a yw cardiau'n dwyllodrus:-
Gweithgarwch twyllodrus arall
Hefyd rydym wedi ein hymrwymo i leihau gweithgarwch twyllodrus wrth gyflenwi'r cynllun CPCS. Mae hyn yn cynnwys cyhoeddi heb ganiatâd gwestiynau ac atebion prawf theori CPCS i'w defnyddio yn y profion technegol.
Lle byddwn ni'n dod ar draws papurau a gyhoeddir ar y rhyngrwyd byddwn ni'n ceisio eu symud ac yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cyhoeddwyr.
Nid yw'r cynllun CPCS yn cefnogi prynu a defnyddio'r papurau hyn fel cymorth hyfforddi/adolygu. Gallai eu defnyddio arwain at adolygu'r wybodaeth anghywir a methu'r prawf theori.
Gellir cyfrif defnyddio'r deunydd hwn yn weithred o dwyll a châi unrhyw gerdyn a ddyfernid o ganlyniad ei ddileu.
Os daw rhywun atoch neu os cewch chi wybod am dudalennau gwefan sy'n cynnig y gwasanaeth hwn, anfonwch y manylion ar ffurf e-bost i Report.It@citb.co.uk a byddwn ni'n ymchwilio ymhellach.