Cynlluniau cerdyn eraill
Mae cardiau CSCS yn darparu tystiolaeth bod gan unigolion sy'n gweithio ar safleoedd adeiladu yr hyfforddiant a'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y math o waith maent yn ei wneud.
Mae CSCS yn gwmni cyfyngedig di-elw. Mae ei gyfarwyddwyr yn dod o sefydliadau cyflogwyr ac undebau sy'n cynrychioli ehangder y diwydiant.
Cynllun Cofnod Sgaffaldwyr y Diwydiant Adeiladu (CISRS) fu'r cynllun hyfforddi gwaith sgaffaldio cydnabyddedig y diwydiant ers dros 40 mlynedd.
Dyma'r cymhwyster sgaffaldio a ffefrir gan yr holl brif sefydliadau, gan gynnwys CSCS, NSAC, HSE, Build UK ymhlith eraill ynghyd â'r gweithgynhyrchwyr systemau sgaffaldiau mwyaf.
Y rhestr swyddogol o beirianwyr nwy sydd wedi cofrestru i weithio'n ddiogel ac yn gyfreithlon ar offer nwy.
Gwefan: www.gassaferegister.co.uk
Mae'r Gymdeithas Fasnach Mynediad Rhaff Diwydiannol (IRATA International) yn cynnwys o fewn ei aelodaeth gwmnïau gweithredu sy'n cyflogi'r technegwyr sydd wedi dysgu eu sgiliau gan gwmnïau hyfforddi'r Gymdeithas.
Mae'r rhaglen hyfforddi IRATA drylwyr, ymroddedig yn cyflenwi gweithlu medrus a all ddefnyddio dull profedig o weithio ar uchder yn ddibynadwy.
Gwefan: www.irata.org
Mae'r Ffederasiwn Rhyngwladol Mynediad a Yrrir gan Bŵer (IPAF) yn hyrwyddo'r defnydd diogel ac effeithiol o gyfarpar mynediad a yrrir gan bŵer ledled y byd yn yr ystyr ehangaf - trwy ddarparu cyngor a gwybodaeth dechnegol, trwy ddylanwadu ar a dehongli deddfwriaeth a safonau, trwy ei fentrau diogelwch a rhaglenni hyfforddiant.
Mae'n sefydliad di-elw sy'n eiddo i'w aelodau ac sy'n cynnwys gweithgynhyrchwyr, cwmnïau rhentu, contractwyr a defnyddwyr.
Gwefan: www.ipaf.org
Mae'r JIB yn sefydliad diduedd sy'n gosod y safonau ar gyfer hyfforddiant ym mysydd cyflogaeth, lles, graddio a phrentisiaid yn y diwydiant contractio trydanol.
Mae eu gwaith wedi'i dargedu ar wella'r diwydiant, ei statws a'i gynhyrchiant.
Gwefan: www.jib.org.uk
Mae Lantra'n cefnogi unigolion a chwmnïau i gyflawni twf personol a busnes.
Mae eu cynhyrchion wedi'u cynllunio i ddiwallu'n benodol anghenion busnes ac unigolion y rhai hynny sy'n gweithio'n bennaf yn y sector tir ac amgylcheddol.
Gwefan: www.lantra.co.uk
Mae'r Scottish Construction Operatives Registration Executive (SCORE) yn gynllun achredu ar gyfer profi cymhwysedd yn y diwydiant adeiladu.
Gwefan: www.scorecard.org.uk
Sentinel yw un o'r prif systemau diogelwch sy'n cael eu defnyddio ar draws y diwydiant rheilffyrdd. Maent yn darparu pasbort i weithwyr rheilffyrdd i weithio ar y seilwaith rheilffyrdd ledled y Deyrnas Unedig
Gwefan: www.railsentinel.co.uk
Mae cynlluniau cerdyn partner yn seiliedig ar yr un safon â'r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) sy'n galw ar y deiliad i ennill N / SVQ a phasio'r Prawf Iechyd a Diogelwch.
I ganfod rhagor o gynlluniau cerdyn partner CSCS, ewch i'r wefan CSCS am ragor o fanylion, gan gynnwys rhifau cyswllt ar gyfer y cynlluniau hyn.