Ynglŷn â'r prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E)
Mae prawf iechyd, diogelwch a'r amgylchedd (HS&E) CITB yn ffordd bwysig i weithwyr adeiladuddangos y gallant fod yn ddiogel mewn swydd. Mae hefyd yn ffordd iddynt wybod bod eu cyd-weithwyr yr un mor ddiogel ar y safle a pheidio â'u rhoi mewn perygl o gael eu hanafu.
I gyflogwyr, gyda gweithwyr sydd wedi pasio prawf HS&E CITB mae sicrwydd bod eu gweithlu yn gallu parhau i fod yn ddiogel yn y gwaith.
Mae tri math o brawf HS&E. Os ydych eisoes yn gwybod pa fath o brawf i'w sefyll, gallwch archebu a thalu am y prawf ar-lein neu dros y ffôn.
Mae'r prawf HS&E yn cynnwys 50 cwestiwn sy'n cwmpasu pum maes gwybodaeth craidd:
- Cyfreithiol a rheoli
- Iechyd a lles
- Diogelwch cyffredinol
- Gweithgareddau risg uchel
- Yr amgylchedd.
Mae gan ymgeiswyr 45 munud i ateb y 50 cwestiwn. Mae'r prawf bellach yn cynnwys dulliau cwestiynau newydd. Defnyddir astudiaethau achos ymddygiadol hefyd yn y prawf i wirio dealltwriaeth ymgeisydd o faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol, a sut i ymddwyn yn ddiogel ar y safle.
Mae CITB yn adolygu'r prawf yn barhaus i sicrhau ei fod yn parhau i helpu gweithwyr adeiladu a chyflogwyr i gael y wybodaeth, sgiliau a hyfforddiant cywir i allu gweithio'n ddiogel yn y diwydiant. Bydd gwelliannau pellach i'r prawf dros y 12 i 18 mis nesaf.
Mae'n costio £22 i sefyll y prawf HS&E.
Gellir prynu talebau o'r gwerth hwn ymlaen llaw a'u defnyddio i dalu am y prawf.
Mae tri math o brawf HS&E:
- Gweithwyr
- Arbenigwyr
- Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol.
Ynglŷn â'r prawf HS&E i Weithwyr
Mae prawf y Gweithwyr yn sicrhau bod gan weithwyr isafswm lefel o ymwybyddiaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol cyn mynd ar y safle. Mae'r prawf hwn yn cwmpasu'r pum maes gwybodaeth craidd a restrir uchod (gweler Strwythur y prawf).
Ynglŷn â'r prawf HS&E i Arbenigwyr
Mae'r profion hyn yn cynnwys cwestiynau am y pum maes gwybodaeth craidd yn ogystal â chwestiynau perthnasol yn y meysydd arbenigol a ddewisir. Gellir sefyll y prawf i Arbenigwyr yn y pynciau dilynol:
- Goruchwylio (SUP)
- Dymchwel (DEM)
- Plymio (JIB) (PLUM)
- Gwaith priffyrdd (HIW)
- Gwaith arbenigol ar uchder (WAH)
- Lifftiau ac esgaladuron (LAEE)
- Twnelu (TUNN)
- HVACR - gwasanaethau gwresogi a phlymio (HAPS)
- HVACR - HVACR - gosod pibellau a weldio (PFW)
- HVACR - gwaith cwndidau (DUCT)
- HVACR - rheweiddio ac aerdymheru (RAAC)
- HVACE - HVACR - cynnal a chadw gwasanaethau a chyfleusterau (SAF).
Ynglŷn â'r prawf Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol
Mae'r prawf hwn yn cwmpasu'r un pum maes craidd ond mae hefyd yn cynnwys cwestiynau ar y pynciau dilynol:
- Rheoliadau adeiladu (dylunio a rheoli)
- Dymchwel
- Gwaith priffyrdd.
Mae CITB yn cynnig y trefniadau cymorth arbennig dilynol i ymgeiswyr sy'n sefyll y prawf HS&E:
Cymorth sydd ar gael |
Math o brawf |
||
---|---|---|---|
Y prawf HS&E i Weithwyr |
Y prawf HS&E i Arbenigwyr |
Y prawf HS&E i reolwyr a gweithwyr proffesiynol |
|
Llais drosodd | Pob un o'r 14 iaith (gweler y rhestr isod) | Saesneg a Cymraeg | Saesneg a Cymraeg |
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) | Gallwch | Na allwch | Na allwch |
Wheelchair access | Gallwch | Gallwch | Gallwch |
Translator | Gallwch | Gallwch | Saesneg a Cymraeg yn unig |
Signer | Gallwch | Gallwch | Gallwch |
Reader | Gallwch | Gallwch | Gallwch |
Gallwch chi archebu'r profion HS&E i gyd gyda throslais Saesneg neu Gymraeg. Ar gyfer y prawf Gweithwyr, mae'r ieithoedd trosleisio ychwanegol hyn ar gael ar gais:
- Bwlgareg
- Tsieceg
- Ffrangeg
- Almaeneg
- Hwngareg
- Lithwaneg
- Pwyleg
- Portiwgaleg
- Pwnjabeg
- Rwmaneg
- Rwseg
- Sbaeneg.
Ar gyfer ymholiadau ynghylch cymorth ychwanegol, ffoniwch 0344 994 4491 neu e-bostiwch citb.testingspecialassistance@pearson.com