You are here:
Canfod prentis
Mae'n hawdd cymryd prentis gyda CITB. Byddwn ni'n gwneud popeth mor syml â phosibl ac yn rhoi'r cyngor ymarferol gorau i chi ar gostau a rheoli prentis. Byddwn ni hefyd yn neilltuo swyddog prentisiaeth penodol i chi a'ch prentis.
Y cyfan sydd rhaid i chi wneud yw:
- Cofrestrwch eich swydd wag ar-lein fel y gall ymgeiswyr addas wneud cais
- Cysylltwch â'ch swyddfa leol i roi gwybod iddynt eich bod yn recriwtio.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl i ni dderbyn eich swydd wag, byddwn yn darparu ymgeiswyr addas i chi eu cyfweld ac yna gallwch ddewis y prentis sy'n addas i chi a'ch busnes. Neu, os ydych chi eisoes wedi canfod prentis posibl, yna gallwch eu helpu i wneud cais ar-lein. Yna byddwn ni'n trefnu hyfforddiant ar eu cyfer yn y coleg a gallant ddechrau gweithio gyda chi.