Ynglŷn â phrentisiaethau CITB
Mae prentisiaeth yn cyfuno dysgu mewn coleg/gyda darparwr hyfforddiant sydd â phrofiad ar y safle i roi'r cymysgedd cywir o sgiliau technegol ac ymarferol i brentisiaid
Manteision cymryd prentis
Ni fu erioed amser gwell i gynnig prentisiaethau, ag un o bob pum cyflogwr yn llogi mwy o brentisiaid i'w helpu drwy'r hinsawdd economaidd bresennol.
Byddwch yn cael aelod o staff sy'n awyddus a brwdfrydig sydd am ddysgu ac a fydd yn helpu'ch busnes i dyfu. Mewn gwirionedd, mae 80% o gyflogwyr yn dweud bod prentisiaid wedi gwneud eu gweithle yn fwy cynhyrchiol.
Mae holl hyfforddiant prentisiaeth CITB yn cael ei ddatblygu mewn ymgynghoriad â'r diwydiant, sy'n golygu y bydd prentis yn dysgu'r sgiliau cywir ar gyfer y swydd.
Cyllid prentisiaethau
CITB yw'r darparwr mwyaf o brentisiaid ar gyfer y diwydiant adeiladu, â thros 45 mlynedd o brofiad o ddatblygu gweithwyr medrus.
Ein nod yw sicrhau bod cymryd prentis mor hawdd â phosibl drwy gyllido eu hyfforddiant â grant o hyd at £10,250 (ar gael i gyflogwyr cymwys sydd wedi'u cofrestru gyda CITB).
Mae'r Grant Prentisiaeth i Gyflogwyr ar gael yn ogystal ag unrhyw grantiau gennym i helpu i dalu cyflog eich prentis.
Grant prentisiaethau
Gallwch wneud cais am grantiau ar gyfer unigolion ar brentisiaethau cymeradwy ar Lefelau 2 a 3, a phrentisiaethau uwch yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Dysgu rhagor am y grantiau Prentisiaethau.
Contract Cyflogwr nad yw'n Lefi ar gyfer Prentisiaethau
Rhaid darllen hwn ar y cyd â'r Datganiad Ymrwymo, mae'r holl delerau ac amodau yn gymwys o dan y Datganiad Ymrwymo ar gyfer Prentisiaethau.
Telerau ac amodau sy'n ymwneud â hyfforddiant prentisiaethau, nas cyllidir gan y lefi