Pa gymwysterau sydd e
Canfod beth sydd angen i chi ei wneud i wneud cais am Brentisiaeth CITB a pha gyllid sydd ar gael.
Yn gyffredinol, nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol ar gyfer prentisiaethau Crefft Adeiladu, ond efallai y bydd gofynion TGAU penodol ar gyfer rhai prentisiaethau goruchwyliol a thechnegol.
Yr hyn sy'n bwysicach yw ymroddiad, parodrwydd i ddysgu ac i weithio fel rhan o dîm.
Darllen y gofynion mynediad ar gyfer pob rhanbarth yn y DU:
Beth sydd ei angen arnoch?
Byddai'n ddefnyddiol cael TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, pynciau technoleg neu gymhwyster Crefftau Adeiladu Sgiliau Gwaith fel y gallwch wneud y cyfrifiadau, mesuriadau a theori angenrheidiol.
Fodd bynnag, mae nifer o ddulliau i chi fynd i mewn i raglen brentisiaeth. Gallech symud ymlaen i un o unrhyw un o'r llwybrau hyn:
- TGAU a gyflawnir yn yr ysgol neu'r coleg
- Y Fenter Rhowch gynnig ar Adeiladu
- Llwybrau i Adeiladu
- Cynllun Prentisiaeth Ifanc mewn Adeiladu (14-16)
- Diploma Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (14-19)
- Sgiliau Ymarferol mewn Saesneg a Mathemateg
- Sgiliau Allweddol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
- Haen Dysgu Sylfaenol (galwedigaeth grefft ar Lefel 1)
- Menter Llwybrau'r Sector Menywod a Gwaith (W&WSPI)
- Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu sy'n cefnogi taith pobl ifanc i fyd gwaith
- Cyrsiau Crefftau Adeiladu Sgiliau Gwaith
- Dyfarniad Dilyniant Cenedlaethol (cyrsiau cyn-alwedigaethol neu cyn-brentisiaeth) yn y coleg
- Rhaglenni Paratowch am Waith neu Hyfforddiant ar gyfer Gwaith
- Prosiectau megis Youthbuild sy'n cefnogi taith pobl ifanc i fyd gwaith.
Hefyd bydd angen arnoch lefel addas o ffitrwydd corfforol i wneud rhai swyddi gan eu bod yn cynnwys symud a thrin adnoddau, lleoli a gosod deunyddiau.
Peidiwch â phoeni os oes gennych anabledd gan fod prentisiaethau ar gael a allai fod yn addas i chi o hyd.
Ydw i'n gymwys i gael cyllid?
Mae'r mwyafrif o newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant adeiladu yn gymwys i gael rhyw fath o gyllid - siaradwch â ni i wirio.
Sut fydd fy nghais yn cael ei asesu?
Fe gewch eich asesu unwaith y byddwch yn barod i ddechrau eich prentisiaeth.
Mae'r asesiad hwn yn ymwneud â gwirio beth y gallwch ei wneud rhag ofn y bydd arnoch angen cymorth neu gyfarwyddyd ychwanegol. Bydd yn helpu CITB i weld pa gymwysterau a phrofiad sydd gennych fel y gellir teilwra eich rhaglen i ddiwallu eich anghenion.
Mae rhai prentisiaethau hefyd yn golygu bod angen i chi fod yn gyfforddus wrth weithio ar uchder ac hyn yr awyr agored ym mhob math o dywydd. Efallai y bydd angen i chi deithio i safleoedd ac aros mewn llety tra'n gweithio i ffwrdd.
Byddai'n ddefnyddiol cael TGAU/Graddau Safonol mewn Mathemateg, Saesneg/Cymraeg neu Dechnoleg fel y gallwch wneud y cyfrifiadau, mesuriadau a theori angenrheidiol.
Fodd bynnag, mae nifer o ddulliau i chi fynd i mewn i raglen brentisiaeth. Gallech symud ymlaen i un o unrhyw un o'r llwybrau hyn:
- TGAU a gyflawnir yn yr ysgol neu'r coleg
- Llwybrau at Brentisiaid
- Llwybrau Dysgu Seiliedig ar Waith mewn Adeiladu
- Dysgu Egwyddorion mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (14-19)
- Bagloriaeth Cymru
- Sgiliau Allweddol/Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif a Chyfathrebu
- Cymhwyster Mynediad/Crefft ar Gymwysterau Lefel 1 mewn Adeiladu
- Menter Llwybrau'r Sector Menywod a Gwaith (W&WSPI)
- Ymddiriedolaeth Ieuenctid Adeiladu sy'n cefnogi taith pobl ifanc i fyd gwaith
- Rhaglenni Hyfforddiant i Weithio (e.e. Hyfforddeiaethau, Camau at Gyflogaeth)
Hefyd bydd arnoch angen lefel addas o ffitrwydd corfforol i wneud rhai swyddi gan eu bod yn cynnwys symud a thrin adnoddau a lleoli a gosod deunyddiau.
Peidiwch â phoeni os oes gennych anabledd gan fod prentisiaethau ar gael a all fod yn addas i chi o hyd.
Ydw i'n gymwys i gael cyllid?
Os oes gennych rywfaint o wybodaeth, cymwysterau neu brofiad eisoes, ni fydd rhaid i chi ailadrodd yr un pethau eto, ond bydd angen i ni wirio eich bod yn gymwys i gael cyllid gan y llywodraeth.
Yng Nghymru, byddwch yn gymwys i gael cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru os ydych:
- Wedi gadael yr ysgol yn gyfreithlon neu heb fod o oedran ysgol gorfodol
- Nad ydych yn mynychu ysgol neu goleg yn amser llawn neu mewn addysg uwch amser llawn
- Fel arfer yn byw yng Nghymru neu mae eich gwaith wedi'i leoli yng Nghymru
- Heb fod yn wladolyn tramor
- Heb fod yn y ddalfa nac ar remánd
- Heb fod yn derbyn grant dysgu neu lwfans cynhaliaeth addysg gan y cynulliad
- Heb fod yn cael eich cefnogi gan weithgaredd parth cyflogaeth
- Heb fod yn cymryd rhan mewn unrhyw raglen gyflogaeth, dysgu neu fenter arall a gyllidir yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU neu Weinidogion Cymru
- Heb fod yn cymryd rhan mewn unrhyw raglen hyfforddiant galwedigaethol arall a gyllidir gan yr UE.
Ar ôl i chi wneud cais fe gewch eich asesu hefyd.
Sut fydd fy nghais yn cael ei asesu?
Fe gewch eich asesu unwaith y byddwch yn barod i ddechrau eich prentisiaeth.
Mae'r asesiad hwn yn ymwneud â gwirio beth y gallwch ei wneud rhag ofn y bydd arnoch angen cymorth neu gyfarwyddyd ychwanegol. Bydd yn helpu CITB i weld pa gymwysterau a phrofiad sydd gennych fel y gellir teilwra eich rhaglen i ddiwallu eich anghenion.
Mae rhai prentisiaethau hefyd yn golygu bod angen i chi fod yn gyfforddus gyda gweithio ar uchder a thu allan ym mhob tywydd. Efallai y bydd angen i chi deithio i safleoedd ac aros mewn llety tra'n gweithio i ffwrdd.
Ar ôl i chi ddod yn brentis byddwch yn parhau i gael eich asesu i weld pa mor addas ydych chi i symud ymlaen i Brentisiaeth Uwch (Lefel 3).