Canlyniadau'r chwiliad
Wedi canfod 48 prosiect a ariennir. Caiff prosiectau a ariennir eu didoli mewn trefn gronolegol o chwith.
I gael gwybodaeth bellach ar bob prosiect, dewiswch deitl y prosiect
- Datblygu a darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol
-
Thema ariannu:
Arloesedd
Pwnc ariannu:Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Technoleg ddigidol a newydd, Adnoddau dysgu, Cymwysterau a chyrsiau newydd, Arwain a RheoliArweinydd y prosiect:Walters UK LtdSwm a ddyfarnwyd:£9,000Crynodeb diwedd y prosiect:Bydd y prosiect hwn yn magu arbenigrwydd yn yr Uwch Reolaeth trwy'r cwrs Ymwybyddiaeth Amgylcheddol sydd wedi ei achredu gan IEMA a bydd hefyd yn defnyddio'r arbenigrwydd hwn i ddatblygu a chyflwyno cyrsiau byr pwrpasol.
Bydd yr hyfforddiant yn mabwysiadu strwythur modiwlaidd i dargedu arbenigeddau penodol. Mae datblygu modiwlau yn hytrach na chyrsiau bloc yn caniatáu i'r cwmni dargedu'n effeithlon ar rolau swydd penodol a dileu cynnwys anhanfodol nad yw'n berthnasol i'r gynulleidfa.
- Effaith: Adrodd CSR i BBaCh adeiladu
-
Thema ariannu:
Arloesedd
Pwnc ariannu:Newid diwylliant y diwydiant, Technoleg ddigidol a newydd, Adnoddau dysgu, Sectorau a rolau, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Arwain a RheoliArweinydd y prosiect:Ffederasiwn Cenedlaethol yr AdeiladwyrSwm a ddyfarnwyd:£231,945Crynodeb diwedd y prosiect:Yn aml mae cyflogwyr bach yn brin o'r sgiliau i gyflwyno Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, ac felly gallant fethu'r buddion iddynt hwy eu hunain a'r gymuned, gan gynnwys ennill contractau newydd.
Bydd y prosiect yn datblygu a darparu offeryn diagnostig ar-lein sy'n nodi aeddfedrwydd sefydliad o ran Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu sgiliau a galluoedd cyflogwyr sy'n cymryd rhan yn y maes hwn.
- Cyflwyniad i sgiliau adeiladu treftadaeth
-
Thema ariannu:
Arloesedd
Pwnc ariannu:Adnoddau dysgu, Sectorau a rolau, Cymwysterau a chyrsiau newyddArweinydd y prosiect:Cymdeithas Hyfforddi Adeiladu Sir GaerfyrddinSwm a ddyfarnwyd:£13,012Crynodeb diwedd y prosiect:Bydd y prosiect yn darparu hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar adeiladu ym maes treftadaeth. Bydd 30 o unigolion sydd eisoes yn dilyn NVQ2 a 3 yn elwa o'r hyfforddiant hwn.
Adeiladwyd traean o adeiladau yng Nghymru cyn 1919 ac maent yn wahanol o ran y deunyddiau a ddefnyddir a'r strwythur o gymharu ag adeiladau modern. Nid yw'r cyrsiau NVQ presennol yn darparu unrhyw hyfforddiant ar wneuthuriad a model hen adeiladau. Eto, mae'n debygol y bydd gofyn i ddysgwyr weithio ar hen adeiladau yn ystod eu gyrfa. Bydd yr hyfforddiant hwn yn sicrhau cadw treftadaeth.