Facebook Pixel
Skip to content

Gweithgareddau nad ydynt yn adeiladu

Gallwn ni ond gofrestru cyflogwyr sy'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n bennaf â gweithgareddau'r diwydiant adeiladu.

Os yw eich busnes dim ond yn ymwneud ag unrhyw un o'r gweithgareddau nad ydynt yn adeiladu a restrir isod - o ran amser cyflogwyr (gan gynnwys cyfarwyddwyr, isgontractwyr a phrentisiaid) - nid ydych yn diwallu'r meini prawf ar gyfer cofrestru ac ni ddylech lenwi Ffurflen Gofrestru Cyflogwr. Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr.

  • Aerdymheru
  • Gwasanaethau dylunio pensaernïol (fel gweithgaredd masnachol annibynnol)
  • Lawntiau bowlio (gosod lawntiau bowlio)
  • Elusennau (gweithgareddau elusen gofrestredig)
  • Gwaith arolygu siartredig (fel gweithgaredd masnachol annibynnol)
  • Decin
  • Gwydr dwbl (gwneuthur, gosod, ffitio, symud i ffwrdd ac amnewid gwydr uned wedi'i selio)
  • Glanhau draeniau
  • Contractio trydanol (pan ymgymerir ag ef, yn, ar, uwchben neu o dan yr adeilad)
  • Ffermio
  • Ffensys
  • Gorchuddion llawr (gorchuddion llawr meddal megis carped, finyl a lino)
  • Garddio (gosod gardd, hadu, plannu, tocio, tywarchu, torri gwrychoedd a glaswellt)
  • Peirianneg geotechnegol (cymryd samplau pridd, profion labordy ac adrodd)
  • Meysydd golff (gosod meysydd golff)
  • Cludo (cludo nwyddau ar y ffordd neu ar y rheilffordd)
  • Gweithgareddau gwresogi ac awyru
  • Cymdeithasau tai
  • Inswleiddio unrhyw gyfarpar, peiriannau neu offer cemegol, trydanol neu fecanyddol
  • Gweithgynhyrchu saernïaeth o ddodrefn sy'n sefyll yn annibynnol h.y. byrddau, cadeiriau, cypyrddau llyfrau
  • Awdurdodau lleol
  • Gwaith saer cloeau
  • Patios (gosod, trwsio neu ddymchwel patios)
  • Plymio
  • Paratoi cerrig at ddibenion cofebau
  • Gosod eiddo
  • Cloddio
  • Ailgylchu
  • Ynni adnewyddadwy (gosod paneli solar, adeiladu ffermydd gwynt, codi tyrbinau gwynt)
  • Llogi sgipiau
  • Tirlunio meddal (hadu, plannu, tocio, tywarchu, torri gwrychoedd a glaswellt)
  • Gwaith panel solar (gosod, trwsio neu symud i ffwrdd paneli solar)
  • Gwneuthur dur
  • Gwaith dur strwythurol
  • Gwaith arolygu (fel gweithgaredd masnachol annibynnol) gwaith Teraso-mosäig
  • Triniaethau pren (gosod unrhyw fath o driniaeth gemegol ar bren i atal neu adfer presenoldeb pryfed, gwiddon, ffyngau neu organebau morol)
  • Rheoli traffig
  • Gweithgareddau awyru
  • Glanhau ffenestri