Pam bod llwch yn broblem?
Mae rheoli llwch yn her i'r diwydiant.
Daw llawer o weithwyr i gysylltiad â llwch bob dydd, ond yn aml byddant ond yn gweithio am gyfnodau byr ar safleoedd amrywiol a newidir cyflogwyr yn rheolaidd.
Gall y swm o lwch a anadlir bob dydd wrth iddynt weithio o un safle i'r llall ymddangos yn fach neu'n ddibwys. Mewn rhai achosion, gall y sgil-effeithiau fod yn uniongyrchol ond, yn gyffredinol, gall gymryd blynyddoedd cyn i symptomau salwch ddod i'r amlwg.
O'r herwydd, anwybyddir risgiau anadlu yn aml, neu cânt eu camddeall neu eu bychanu.
Gall anadlu llwch silica, llwch pren a mathau eraill o lwch (heb fawr ddim silica, os o gwbl) achosi clefydau'r ysgyfaint difrifol iawn. Gall clefydau o'r fath gael effaith andwyol a golygu na all unigolyn weithio mwyach neu fod yn rhaid iddo newid ei alwedigaeth.
Rhai o ystadegau'r diwydiant
Caiff salwch sy'n gysylltiedig â gwaith effaith ofnadwy ar unigolion a'u teuluoedd ond prin y'i deellir neu y'i gwerthfawrogir.
- Tua 13,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn sgil canser a chlefydau ysgyfaint galwedigaethol
- Amcangyfrifir bod mwy na 40% o'r holl achosion o gofrestru canser/marwolaethau yn ymwneud â gweithwyr adeiladu
- Amcangyfrifir bod mwy na 500 o weithwyr adeiladu yn marw am iddynt ddod i gysylltiad â llwch silica bob blwyddyn...dros 10 yr wythnos
- Mae llawer mwy yn cael salwch difrifol iawn
- Caiff 23.5 miliwn o ddiwrnodau gwaith eu colli yn y DU bob blwyddyn oherwydd salwch sy'n gysylltiedig â gwaith
I gael rhagor o wybodaeth am Lwch Adeiladu - gweler CIS36
Bob blwyddyn, mae miloedd o weithwyr adeiladu yn cael clefydau anadlu, neu'n marw, am iddynt anadlu llwch a llid
Microsoft.CSharp.RuntimeBinder.RuntimeBinderException: 'Newtonsoft.Json.Linq.JValue' does not contain a definition for 'imageObj' at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object ) at System.Dynamic.UpdateDelegates.UpdateAndExecute1[T0,TRet](CallSite site, T0 arg0) at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object ) at ASP._Page_app_plugins_citb_s8080_simpleblock_backoffice_views_frontend_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\app_plugins\citb\s8080.simpleblock\backoffice\views\frontend.cshtml:line 16 at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy() at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy() at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage) at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer) at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData) at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20