Y Bartneriaeth Llwch Adeiladu
Mae'r Bartneriaeth Llwch Adeiladu (CDP) yn fenter gydweithredol o fewn y diwydiant sy'n cynnwys llawer o sefydliadau, fel HSE, yn uniongyrchol
Nod CDP yw:
Codi ymwybyddiaeth, o fewn y diwydiant adeiladu, o glefydau'r ysgyfaint sy'n gysylltiedig â llwch peryglus yn y gweithle a hyrwyddo arfer da er mwyn atal y clefydau hyn, yn enwedig ymhlith y rheini sy'n cyflawni tasgau risg uchel
Mae aelodau'r bartneriaeth wedi cytuno i wneud y canlynol:
- Targedu llwch adeiladu peryglus, yn enwedig yr enghreifftiau o lwch sy'n peri'r risg fwyaf o glefyd yr ysgyfaint.
- Gwella ymwybyddiaeth y diwydiant adeiladu o'r risg o ddatblygu clefyd yr ysgyfaint yn sgil anadlu'r mathau hyn o lwch.
- Nodi'r tasgau adeiladu hynny sy'n peri'r risg fwyaf o ddatblygu cyflyrau o'r fath ymhlith gweithwyr.
- Cydweithio er mwyn cytuno ar reolaethau cymesur i leihau'r risgiau o'r tasgau risg uchel hyn a'u hyrwyddo.
Pam?
Mae'r rhai sydd ynghlwm o'r farn y gall partneriaeth rhwng y rheoleiddiwr a'r diwydiant gael mwy o effaith na gweithio'n unigol. Mae'n helpu i ddatblygu arloesedd, sicrhau gwelliannau a sicrhau cysondeb.
Gall blaenoriaethau cytûn hefyd gael eu targedu a gellir gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau.
Mae'r bartneriaeth hon yn golygu mwy nag ambell gyfarfod neu gyd-ddigwyddiad. Yn hytrach, mae'n seiliedig ar agenda gytûn a chydberthnasau gwaith agos â'r cynrychiolwyr hynny o'r diwydiant sy'n awyddus i chwarae rhan.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhain a meysydd eraill gweler ein dogfen Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen Adnoddau
Cyflawniadau 2014/15
Mae CDP wedi llunio crynodeb o'i chyflawniadau ar gyfer 2014/15 (PDF 270KB)
Gwybodaeth CDP a chysylltu â ni
Mae'r tudalennau gwe hyn wedi'u datblygu gan y Bartneriaeth Llwch Adeiladu (CDP) er mwyn helpu contractwyr, cyflogwyr, gweithredwyr ac eraill i reoli'r risg o ddod i gysylltiad â llwch a chodi ymwybyddiaeth o'r broblem hon o fewn y diwydiant adeiladu.
Rhydd y canllawiau hyn arfer da a all ragori ar y gofynion cyfreithiol sylfaenol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am CDP a'i gweithgareddau e-bostiwch Construction.Dust.Partnership.Enquiry@hse.gsi.gov.uk
Logo CDP 
Mae ein logo yn rhan bwysig o waith y Bartneriaeth. Mae'n hyrwyddo ein nodau a'n hamcanion. Rydym yn falch ohono ac felly gofynnwn i chi ei drin â gofal. Os hoffech ei ddefnyddio dilynwch y canllawiau hyn.
Caniatâd ar gyfer logo CDP (PDF 79Kb)
Microsoft.CSharp.RuntimeBinder.RuntimeBinderException: 'Newtonsoft.Json.Linq.JValue' does not contain a definition for 'imageObj' at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object ) at System.Dynamic.UpdateDelegates.UpdateAndExecute1[T0,TRet](CallSite site, T0 arg0) at CallSite.Target(Closure , CallSite , Object ) at ASP._Page_app_plugins_citb_s8080_simpleblock_backoffice_views_frontend_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\app_plugins\citb\s8080.simpleblock\backoffice\views\frontend.cshtml:line 16 at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy() at System.Web.Mvc.WebViewPage.ExecutePageHierarchy() at System.Web.WebPages.WebPageBase.ExecutePageHierarchy(WebPageContext pageContext, TextWriter writer, WebPageRenderingBase startPage) at Umbraco.Web.Mvc.ProfilingView.Render(ViewContext viewContext, TextWriter writer) at System.Web.Mvc.Html.PartialExtensions.Partial(HtmlHelper htmlHelper, String partialViewName, Object model, ViewDataDictionary viewData) at ASP._Page_Views_Partials_grid_editors_Base_cshtml.Execute() in C:\home\site\wwwroot\Views\Partials\grid\editors\Base.cshtml:line 20