Pwyllgor Penodiadau a Chyflogau
Mae'r Pwyllgor Penodiadau a Chyflogau yn ystyried, yn cytuno ac yn argymell i Fwrdd y CITB strategaeth AD gyffredinol, polisi cydnabyddiaeth ariannol ac athroniaeth sy'n cyd-fynd â'i strategaeth fusnes, amcanion busnes, archwaeth risg a gwerthoedd hirdymor.
O fewn hyn, mae'r Pwyllgor yn ymgysylltu'n arbennig â gwaith y Pennaeth Adnoddau Dynol (HR) ac yn cydgysylltu, fel bo angen, â Phwyllgor Archwilio a Risg y Bwrdd mewn cysylltiad â mesurau perfformiad wedi'u haddasu yn ôl risg i gadarnhau bod y polisi cyflogau yn unol â rheolaeth gadarn ac effeithiol ar risg.
Yn arbennig, bydd y Pwyllgor Penodiadau a Chyflogau yn cynghori a darparu sicrwydd i'r Bwrdd ar:
-
benodi'r Prif Swyddog Gweithredol (CEO), y Bwrdd, aelodau'r Cyngor a Phwyllgor y Bwrdd (gan gynnwys cynlluniau i adeiladu capasiti aelodau presennol a darpar aelodau)
-
y polisi cyflogau, i gynnwys y gyllideb ar gyfer codiadau cyflog blynyddol, pob agwedd ar gyflogau ynghylch y CEO a phob adroddiad uniongyrchol i'r CEO, gan gynnwys:
-
canlyniadau targedau perfformiad
-
ymrwymiadau i'w gwneud ar ddileu swydd, ymddeol, ymddiswyddo neu ddiswyddo
-
-
y broses gynllunio ar gyfer olyniaeth i aelodau'r tîm gweithredol ac arweinyddiaeth
-
datblygu'r dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) HR a'r monitro parhaus o'r rhain yng nghyd-destun y cynllun strategol CITB.
Aelodau cyfredol y Pwyllgor (ym mis Awst 2020) yw:
- Tony Elliott – cadeirydd ac ymddiriedolwr CITB
Diana Garnham – ymddiriedolwraig CITB
Peter Lauener – CITB Cadeirydd
Bydd cyfarfodydd yn digwydd ym Chwefror, Mehefin a Tachwedd 2018.
Presenoldeb |
|||
|
Chwefror |
Mehefin |
Tachwedd |
Maria Pilfold |
√ |
|
|
Diana Garnham |
√ |
|
|
Karen Jones |
√ |
|
|
Ray Wilson* |
√ |
*Resigned from Committee in February 2018 |