Mae Pwyllgorau Cymru, Lloegr a'r Alban wedi cael eu diddymu. Fe'u disodlwyd gan y Cynghorau Cenedl ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban.
Pwyllgor Lloegr
Roedd rhaid i'r Pwyllgor gynghori'r Bwrdd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau CITB mewn cysylltiad â datblygu a chyflenwi sgiliau adeiladu yn Lloegr yn unol â chynllun strategol y Bwrdd.
Yn arbennig, roedd Pwyllgor Lloegr yn cynghori a gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar faterion ynghylch busnes strategol a chefnogi arweinyddiaeth strategol y Bwrdd, â goruchwyliaeth gorfforaethol o strategaeth a pherfformiad. Roedd yn gweithredu fel 'sefydliad ymchwil' ac yn cynghori ar: ddatblygu a chyflenwi sgiliau adeiladu cyfredol a rhai'r dyfodol yn Lloegr; cyfeiriad datblygiadau'r diwydiant ym maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig ehangach; dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth ar sgiliau a hyfforddiant; blaenoriaethau a pholisïau ar gyfer y diwydiant adeiladu yn Lloegr; effaith ac effeithiolrwydd cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau yn Lloegr gan amlinellu meysydd ar gyfer gwella ac arloesi.
Aelodau'r Pwyllgor (ym mis Mehefin 2017) oedd:
- Frances Wadsworth - cadeirydd, ymddiriedolwraig CITB a phennaeth a CEO Croydon College
- Debbie Akehurst - pennaeth cyfrifoldebau corfforaethol (Llundain) gyda Land Securities Properties Cyfyngedig
- Debbie Aplin - cyfarwyddwraig anweithredol MHA Housing
- Caroline Blackman - cyfarwyddwraig AD gyda Laing O'Rourke
- Ian Dickerson - pennaeth newydd-ddyfodiaid a chyllid gyda Kier Group Services
- Stuart Green - athro rheoli adeiladu ym Mhrifysgol Reading
- Steve Hindley - cadeirydd Grŵp Midas
- Richard Hulland - cyfarwyddwr grŵp gyda Veolia
- Mike Jaggs - cyfarwyddwr cyswllt BRE Global Cyfyngedig.
- Chris Jones - pennaeth dysgu a datblygu gyda BAM Construct UK Cyfyngedig
- Hannah O'Sullivan - pennaeth dysgu a datblygu gyda VolkerWessels UK Cyf
- Liz Stokes - cyfarwyddwraig gyswllt adnoddau dynol (AD) ar gyfer hyfforddi a datblygu gyda Grŵp Clancy
- Ray Wilson - cyfarwyddwr Carillion Training Services ac ymddiriedolwr CITB
Bydd cyfarfodydd yn digwydd ym 2 Mai, 15 Mehefin a 18 Medi 2017.
Pwyllgor yr Alban
Roedd rhaid i'r Pwyllgor sicrhau bod y Bwrdd wedi cael y sicrwydd mae arno ei angen ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau CITB mewn cysylltiad â datblygu a chyflenwi sgiliau adeiladu yn yr Alban yn unol â'r cynllun strategol cyffredinol.
Yn arbennig, roedd Pwyllgor yr Alban yn cynghori a gwneud argymhellion i'r Bwrdd ar y blaenoriaethau ar gyfer y diwydiant adeiladu yn yr Alban, fel rhan o'r cynllun strategol CITB cyffredinol, darpariaeth hyfforddiant a safonau ar gyfer y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig ehangach yn yr Alban. Hefyd roedd y Pwyllgor yn cynghori'r Bwrdd ar gynigion yn perthyn i'r cynlluniau strategol ar gyfer yr Alban; dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth ddatganoledig ar sgiliau a hyfforddiant, ac amlinellu meysydd posibl ar gyfer gwella ac arloesi.
Hefyd roedd y Pwyllgor yn darparu cyngor a chyfarwyddyd i grwpiau adeiladu a'r amgylchedd adeiledig yn yr Alban
Aelodau'r Pwyllgor (ym mis Medi 2017) oedd:
- Maureen Douglas - Cadeirydd ac ymddiriedolwraig CITB
- Douglas Anderson - Cyd-reolwr Gyfarwyddwr GAP Group ac aelod o Gymdeithas Perchnogion Offer yr Alban (SPOA)
- Nicola Barclay - Cyfarwyddwraig Cartrefi i'r Alban
- Grahame Barn - Pennaeth Aelodaeth yn CECA yr Alban
- Craig Bruce - Aelod o Gyngor CITB
- Steve Dillon - Ysgrifennydd Rhanbarthol yr Undeb Adeiladu, Crefftau Perthynol a Thechnegwyr (UCATT)
- Gemma Gourlay - yn cynrychioli Robertson Group
- David Harris - ymddiriedolwr CITB
- Vaughan Hart - Cyfarwyddwr Gweithredol y Scottish Building Federation (SBF)
- Malcolm Horner - aelod o Gyngor CITB
- Stewart Lyon - Aelod Anrhydeddus Gweithredol o'r Gymdeithas Gwasanaethau Adeiladu a Pheirianneg
- Donald McDonald - Cyfarwyddwr McDonald Decorators
- Stewart McKillop - Pennaeth Coleg South Lanarkshire
- John McKinney - Swyddog Cymorth y Ffederasiwn yn BuildUK
- Ed Monaghan - yn cynrychioli Construction Scotland
- Iain Morrison - Pennaeth Adeiladu yng Ngholeg Forth Valley
- Gordon Nelson - Cyfarwyddwr Gwasanaeth FMB yr Alban
- Andre Reibig - Uwch Swyddog Polisi yng Nghyngor Cyllido'r Alban (SFC)
- Ian Rogers - Prif Swyddog Gweithredol, Scottish Decorators Federation
- Stephen Sheridan - Rheolwr Sgiliau Adeiladu yn Skills Development Scotland (SDS)
- Colin Tennant - Pennaeth Sgiliau a Deunyddiau Traddodiadol yn Historic Scotland
Aelodau cyfetholedig (ym mis Medi 2017):
- Jim Gilmour - Rheolwr Gyfarwyddwr ODC Cyf
- Gavin Hay - Rheolwr Datblygu yng Nghyngor Prentisiaethau a Hyfforddiant Scottish Building (SBATC)
- Brendan Keenan - yn cynrychioli Cyngor Prentisiaethau Paentio ac Addurno'r Alban (SPADAC)
- Billy Kirkwood - Rheolwr Gyfarwyddwr RDK Construction Cyf
- Newell McGuiness - rheolwr gyfarwyddwr SELECT
Bydd cyfarfodydd yn digwydd ym 6 Chwefror, 19 Mehefin a 20 Tachwedd 2017.
Pwyllgor Cymru Wales
Roedd y Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod y Bwrdd yn cael y sicrwydd roedd arnynt ei angen ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau CITB ar gyfer cyllido, llywodraethu a rheoli mewn cysylltiad â datblygu a darparu sgiliau adeiladu yng Nghymru yn unol â'r cynllun strategol cyffredinol.
Yn benodol, fe wnaeth Pwyllgor Cymru Wales Bwrdd CITB gynghori'r Bwrdd a gwneud argymhellion iddo ar:
- blaenoriaethau a pholisïau ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru, fel elfen o gynllun strategol cyffredinol y CITB:
- darpariaeth hyfforddiant
- fframweithiau safonau a chymwysterau ar gyfer y diwydiant adeiladu a'r amgylchedd adeiledig ehangach yng Nghymru
- cynnydd a chynigion yn ymwneud â’r cynlluniau strategol a busnes ar gyfer Cymru
- dylanwadu ar bolisïau llywodraeth ddatganoledig ar sgiliau a hyfforddiant:
- trwy gyfathrebu'n effeithiol anghenion a chyflenwad sy'n seiliedig ar dystiolaeth
- ystyried pynciau eraill, fel y'u diffinnir gan y Bwrdd
- effaith polisïau a strategaethau'r Bwrdd yng Nghymru
- amlygu gwahaniaethau a gofynion cenedlaethol
- cwmpasu newidiadau sylweddol o ran cyflenwi
- effaith ac effeithiolrwydd cyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau yng Nghymru gan amlinellu meysydd ar gyfer gwella ac arloesi
Hefyd fe wnaeth y pwyllgor ddarparu cyngor a chyfarwyddyd i'r grwpiau Cymreig dilynol:
- Fforymau Rhanbarthol (Gogledd, De-orllewin a De-ddwyrain)
- Hefyd grwpiau eraill gan gynnwys:
- Arsyllfa Cymru (Grŵp CSN)
- Grŵp Gwasanaethau Proffesiynol Cymru
- Grŵp Cynghori Sgiliau Adeiladu Traddodiadol Cymru
- Adeiladu Cymru
- Grŵp Cynghori ar Gymwysterau
Grŵp Cynhwysiant Tegwch a Pharch/Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Aelodau'r Pwyllgor (ym mis Mehefin 2017) oedd:
- David Harris - cadeirydd ac ymddiriedolwr CITB
- Nick Blundell - yn cynrychioli UCATT
- Paul Bogle - yn cynrychioli Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr
- Chris Chapman - yn cynrychioli CLlLC
- Anthony Davies - yn cynrychioli Anthony A Davies Cyf
- Gareth Davies - yn cynrychioli Knox and Wells
- Sharon Davies - sylwedydd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru
- Maureen Douglas - ymddiriedolwraig CITB
- Ed Evans - yn cynrychioli CECA Cymru
- Martyn Evans - yn cynrychioli Alun Griffiths (Contractwyr)
- Trevor Francis - yn cynrychioli Gwneud Arolwg o Adeiladau Cymru
- Lisa Garfield - yn cynrychioli Willmott Dixon
- Ifan Glyn - yn cynrychioli FMB
- Mark Harris - yn cynrychioli Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi
- Richard Heaton - yn cynrychioli Read Construction
- Owain Jones - yn cynrychioli T Richard Jones Cyfyngedig
- Darryn Lewis - sylwedydd yn cynrychioli'r Adran Addysg (DfE)
- Richard Price - yn cynrychioli Barratt Homes
- Paul Senior - yn cynrychioli Keepmoat
- Ann-Marie Smale - yn cynrychioli Powell Dobson Architects
- Anthony Thomas - yn cynrychioli ASW Property Services
- Ffrancon Williams - yn cynrychioli Cartrefi Cymunedol Gwynedd
- Robert Williams - yn cynrychioli WRW Group
- Mark Wusthoff - yn cynrychioli Bouygues UK
- Chris Wynne - yn cynrychioli C Wynne a'i Feibion Cyf
Bydd cyfarfodydd yn digwydd ym 2 Chwefror, 20 Medi a 24 Ionawr 2018.