Y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi
Mae'r pwyllgor Cyllid Buddsoddi yn cynghori Bwrdd CITB ar weithredu strategaeth a pholisi Cyllid Buddsoddi CITB ac yn rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fod y cyllid buddsoddi yn cael ei weithredu'n effeithiol.
Yn arbennig, bydd y Pwyllgor Cyllid Buddsoddi'n cynghori'r Bwrdd ar gyfeiriad y strategaeth yn y dyfodol, gan gynnwys diwygio'r Cynllun Grantiau trwy asesu'r effaith o benderfyniadau cyllido a thrwy achosion eithrio y gofynnir amdanynt gan y tîm rheoli gweithredol.
Aelodau cyfredol y Pwyllgor (ym mis Mehefin 2020) yw:
-
Karen Jones - Cadeirydd ac ymddiriedolwraig CITB
-
Maria Pilford - ymddiriedolwraig CITB
-
Julia Evans - Prif Swyddog Gweithredol BSRIA Cyfyngedig
-
Chris Jones - Cyfarwyddwr Dysgu a Datblygu gyda BAM Construct Cyf
-
Rupert Perkins - Cyfarwyddwr Contracts, John Perkins Construction Cyfyngedig.
Bydd cyfarfodydd yn digwydd ym Mawrth, Gorffennaf, Medi a Thachwedd 2018.
Presenoldeb yng nghyfarfodydd Pwyllgor Cyllid Buddsoddi CITB 2018 |
||||
|
Mawrth |
Gorffennaf |
Medi |
Tachwedd |
Karen Jones |
X |
|
|
|
Maria Pilfold |
√ |
|
|
|
Julia Evans |
√ |
|
|
|
Chris Jones |
√ |
|
|
|
Alison Lamplough |
√ |
|
|
|
Rupert Perkins |
√ |
|
|
|
Crynodeb o drafodaethau'r pwyllgor
22 Tachwedd 2017
-
Croesäwyd dau aelod newydd o'r pwyllgor, Alison Lamplough a Rupert Perkins, i'r cyfarfod.
-
Derbyniodd y pwyllgor gynigion mewn perthynas ag opsiynau ariannu, ffenestri ariannu, cyflwyno a mynegi diddordeb ar gyfer ariannu hyblyg, comisiynu, ymgysylltu ag ariannu a rhestr o gomisiynau ffenestr 9. Roedd nifer y ceisiadau am arian hyblyg a strwythuredig wedi gostwng, roedd y galw am arian Sgiliau a Hyfforddiant yn parhau i fod yn uchel ac roedd y meintiau am yr holl arian hyblyg a strwythuredig ar gyfer yr Alban a Chymru yn gwella. Cytunodd y pwyllgor ar y cynigion ar gyfer y canlynol: symleiddio opsiynau ariannu; tynnu ffenestri ariannu i ffwrdd; cyflwyno mynegiant o ddiddordeb am gyllid ymatebol; ymagwedd fwy heini tuag at ariannu; a newid o ran ymgysylltu - gan nodi arweinwyr mewn sefydliadau sy'n gweithio ar strategaeth ac arloesedd. Roedd pecyn cymorth ar gael i gyfeirio ymgeiswyr at ymyriadau ariannu.
-
Trafododd y pwyllgor ystyriaethau i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant ar gyfer 2018. Tra bod y Cynllun Grantiau newydd yn cael ei ymgorffori, ni ragwelwyd newidiadau sylweddol i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant cyn Mawrth 2019.
-
Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o gyfanswm cyllid cyflogwyr ar Grantiau, y Pecyn Trosglwyddo a Chyllid Seiliedig ar Raglen. Parhaodd gwariant i ddilyn tuedd ar i fyny; roedd nifer y micro-gyflogwyr sy'n hawlio grant wedi gostwng ychydig yn 2017 o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2016; Nid oedd awtomeiddio hawliadau grant ar waith eto.
12 Medi 2017
-
Cyflwynwyd dogfennaeth Diwygio'r Cynllun Grantiau i'r pwyllgor gan nodi materion i'w trafod, sef: cyfraddau grant ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant tymor byr; ymagwedd haenog at gyfraddau hyfforddi tymor byr; cynnig ar gyfer cymorth tymor byr ad hoc; Hyfforddiant Cymorth Cyntaf a chynigion ar gyfer capio. Cynigiodd y Cynllun Grantiau osod cap fesul cyflogwr fesul blwyddyn yn seiliedig ar faint gweithlu'r cyflogwyr x nifer uchaf o gyrsiau fesul gweithiwr mewn perthynas â Chyrsiau Hyd Byr.
-
Cyflwynwyd y data ariannu ar gyfer 2017 hyd yn hyn, wedi'i rannu'n Grantiau, Pecyn Pontio a Chyllid Seiliedig ar Raglen i'r pwyllgor. Roedd y Taliadau Pecyn Pontio cyntaf wedi'u gwneud ym mis Gorffennaf 2017. Roedd y sefyllfa gyffredinol mewn perthynas â Chyllid Cyflogwyr yn gadarnhaol. Roedd y gyfradd lwyddiant ar gyfer Cyllid Hyblyg a Strwythuredig yn parhau'n isel. Roedd camau ar y gweill i newid yr ymagwedd gomisiynu, i weithio â sefydliadau a grwpiau yn gynnar a chynyddu marchnata. Roedd monitro ceisiadau'n gwella. Roedd yr Alban wedi gwella o ran nifer y ceisiadau Sgiliau a Hyfforddiant.
6 Gorffennaf 2017
-
Sefydlwyd Fforwm y Comisiwn ac fe wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2017. Fe gafodd ei fynychu'n dda gan gyflogwyr a chynrychiolwyr Ffederasiynau. Roedd papur yn cael ei baratoi ar gyfer Gweithrediaeth CITB i adolygu'r broses a strwythur arfaethedig ar gyfer comisiynu wrth symud ymlaen. Yr amcan oedd i'r broses ddechrau i'w ddiwedd sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymgysylltu'n llawn yn y broses.
-
Sefydlwyd y Seilwaith Strwythuredig (Seilwaith Asesu) o ganlyniad i'r galw am asesiadau gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Asesu Sgiliau. Byddai'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Asesu Sgiliau yn canolbwyntio ar sgiliau arbenigol a rhai sy'n dod i'r amlwg (ei phwrpas craidd) felly y cynllun oedd comisiynu cyflogwyr a ffederasiynau i sefydlu eu canolfannau asesu eu hunain. Byddai'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Asesu Sgiliau yn cefnogi'r ceisiadau llwyddiannus hynny yn y cyfnodau creu a sefydlu; byddai'r elw yn cael ei ddychwelyd i'r diwydiant trwy fuddsoddi yn ôl i'r canolfannau a'r aseswyr hyn.
-
Roedd y Cymhellion Datblygedig Hyblyg - (Seilwaith Aseswyr) yn barhad yn dilyn y prosiect a gomisiynwyd yn ffenestri 6 a 7 mewn perthynas ag aseswyr hyfforddiant ac NVQs. Roedd y galwedigaethau hynny na chafodd eu cymryd yn y rownd gynharach honno yn cael eu codi yn y ffenestr bresennol.
-
Roedd gan y prosiect Ymgysylltiad Addysgol Strwythuredig (Addysg Uwch) ddwy elfen ar wahân: (1) Gwella profiad y myfyriwr, a gymerwyd o safbwynt myfyriwr. Yr amcan oedd i'r comisiwn hwn ddarparu adnoddau i addysg uwch megis astudiaethau achos bywyd go iawn i ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn wybyddus i mewn i'r diwydiant adeiladu. Trwy'r gallu i dyfu yn unol â'r anghenion ac ymagwedd gyson, bydd adnoddau'n cael eu datblygu i'w defnyddio gan sefydliadau addysg uwch; (2) Ymyrraeth i addysg uwch o safbwynt y cyflogwr. Y nod yw sicrhau bod gan yr athrawon addysg uwch y sgiliau cywir (e.e. trwy hyfforddi'r hyfforddwr) ac adnoddau i ddarparu cyfleoedd adeiladu. Fe wnaeth ymchwil nodi'n glir y prinder sgiliau rheoli/proffesiynol/peirianneg felly roedd yn bwysig bod darparwyr hyfforddiant yn ymwybodol o'r technolegau presennol sydd ar gael ynghyd ag astudiaethau achos i hyrwyddo'r meysydd penodol hyn.
-
Cyhoeddwyd y prosiect comisiynu Ymgysylltiad Addysgol Strwythuredig (Cwricwlwm Cyd-destunol) ym Mai 2016 ac roedd wedi bod yn llwyddiannus yng Nghymru. Nid oedd yr ymatebion mor gryf yn Lloegr a'r Alban. Roedd CITB yn awyddus i ail-redeg yr ymgysylltiad â chyflogwyr gan fod arwyddion y byddai galw digonol.
-
Cafodd y comisiynu Arloesedd Hyblyg (Cynhyrchiant) ei ddiweddaru i'r pwyllgor. Roedd CITB wedi cynnal gweithdy â ffederasiynau a chyflogwyr posibl sy'n dymuno gwneud cais i helpu yn eu dealltwriaeth a sicrhau eu bod yn glir ynghylch sut y gallent gyflawni eu nodau. Byddai'r ffenestr yn agor ym mis Gorffennaf 2017 ac yn cau ym mis Medi 2017. Roedd ail weithdy wedi'i gynllunio.
-
Roedd calendr comisiynu tymor hir wedi'i gylchredeg (mewn drafft) a fyddai'n cael ei gwblhau yn fuan a'i rannu yn y Fforwm Comisiynu ac ar y wefan CITB. Byddai hyn yn helpu sefydliadau â chynllunio yn y dyfodol ac yn dangos bod CITB yn gwrando ar eu hadborth.
16 Mai 2017
-
Cadarnhawyd i'r pwyllgor fod cyfanswm o 96 o brosiectau cronfa hyblyg a strwythuredig. Hysbyswyd y pwyllgor fod CITB yn gweithio'n rhagweithiol â ffederasiynau i gynyddu ymgysylltiad. Awgrymoddodd 'Hawliad Ardolladwy Mewn Cwmpas v Grant Heb ei Hawlio' fod ychydig dros 50% yn hawlio grant. Nodwyd nad oedd rhai cwmnïau yn hyfforddi, ar gyfer rhai roedd yn ormod o ymdrech ac nid oedd eraill, yn arbennig y v bach a micro-gwmnïau, yn ymwybodol o'r hyn oedd ar gael. Roedd angen gyrrwr i hyrwyddo pa arian oedd ar gael.
-
Cyflwynwyd y farn ddiweddaraf ar yr ardoll a'r tirlun ariannu a cheisiwyd barnau ar ei argymhellion. Roedd rhagolygon costau'r Pecyn Pontio wedi'u cynyddu i adlewyrchu data o'r asesiadau ardoll a'i nod oedd galluogi cwmnïau i gynnal gwariant ar hyfforddiant. Trafododd y pwyllgor dynnu'r Grant Atodol i ffwrdd; a gafodd ei fanylu yn nigwyddiadau consensws CITB. Cytunodd y pwyllgor â chael gwared â'r Grant Atodol ac eithrio prentisiaethau, gan fod llawer o gwmnïau eisoes wedi cyllidebu ar gyfer oes prentis yn dechrau ym mis Medi 2017. Roedd awtomatiaeth taliadau grant a chyflwyno Cyfeirlyfr Hyfforddiant wedi'u derbyn yn dda. Y meysydd pryder a oedd yn codi oedd: cyflwyno'r Cyfeiriadur Hyfforddiant/Cofrestr Gymhwysedd; angen mwy o fanylion ar weithrediadau'r broses achredu a'r effaith mewn perthynas â hyfforddiant mewnol; roedd y Cynllun Grantiau presennol yn gweithio'n dda ac nid oedd angen iddo newid; mater tegwch, yr ardoll a delir ar bob cyflogai ond grant ar gael i gefnogi hyfforddiant ar gyfer sgiliau adeiladu craidd yn unig. Cytunodd y pwyllgor fod polisi cyfathrebu clir yn hollbwysig. Dylai'r Cynllun Grantiau fynd i'r afael â meysydd anghenion sgiliau yn y diwydiant; efallai y bydd meysydd lle gallai cyflogwyr arddangos gofynion adeiladu penodol. Hysbyswyd y pwyllgor o'r angen i weithredu rheolaethau ar gyllid grant â'r Cynllun Grantiau newydd. Cynigiwyd cynnal y rheolaeth bresennol lle na all cyflogwr (ac eithrio ar gyfer prentisiaeth) hawlio grant o fewn y flwyddyn gyntaf o gofrestru. Cytunodd y pwyllgor â'r cynnig hwn a'r rheolaethau eraill a gynigiwyd. Cytunodd y pwyllgor â'r bwriad i symud tuag at raniad o arian a ddyrennir ag 80% i Weithgaredd Comisiynu gan adael 20% i gefnogi mentrau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y gorwel cynllunio ac yn cyd-fynd ag amcanion CITB. Roedd y pwyllgor yn dymuno i'r Gronfa Sgiliau a Hyfforddiant barhau i fod ar gael am 12 mis arall, a phryd hynny byddai'n cael ei adolygu.
-
Roedd nifer o amcanion wedi'u gosod ar gyfer y Cyfeiriadur Hyfforddiant, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, hyfforddiant ariannu CITB yn unig a oedd yn bodloni blaenoriaethau a gytunwyd gan y diwydiant; a gyflwynid hyd at safonau a lefel ansawdd y cytunwyd arnynt ac a oedd yn drosglwyddadwy rhwng cyflogwyr; roedd cynnyrch o ansawdd cyson rhwng darparwyr hyfforddiant; roedd gan gyflogwyr welededd o'r hyfforddiant a gwblhawyd gan eu gweithlu. Byddai'r cyfeiriadur yn cwmpasu sbectrwm eang yn amrywio o hyfforddiant mewnol i ddarparwyr hyfforddiant â chyrsiau heb eu hachredu; cyrsiau a gymeradwyir gan ffederasiwn; cyrsiau heb eu harchwilio gan y Coleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC); cyrsiau wedi'u hachredu gan gorff ardystio i gymhwyster (rheoliadau wedi'u cynnal a'u gosod gan Qfqual, Scottish Qualifications Authority neu Gymwysterau Cymru). Darparwyd manylion o'r llwybrau arfaethedig wrth osod safonau, sef bod CITB yn cipio'r angen am safonau; Cytunodd CITB â'r diwydiant ar y safonau i'w datblygu'r; gweithiodd CITB â diwydiant a sefydliadau dyfarnu i ddatblygu safonau, cynnwys ac argaeledd grantiau; dilyswyd safonau â diwydiant; meysydd llafur hyfforddi wedi'u halinio â safonau a lefel cyrhaeddiad â sefydliadau; cyhoeddodd CITB safonau, meysydd llafur ac alinio i gymwysterau ar y cyfeirlyfr.
31 Mawrth 2017
-
Trafodwyd a oedd y ddwy thema gomisiynu a gynigiwyd ar gyfer ffenestr ariannu Mai 2017 yn briodol ar gyfer mabwysiadu'r ymagwedd gomisiynu. Cytunodd y pwyllgor y dylai'r ffocws o fewn y comisiwn ar gyfer cynhyrchiant, o ran cyfathrebu a chynnwys, fod ar hyrwyddo ymagweddau da. Dylai'r comisiwn bwysleisio mynediad at hyfforddiant a fyddai'n gweithio. Byddai'r comisiwn yn rhedeg dros ddwy ffenestr. Y cam cyntaf fyddai cwmpasu ystod o brosiectau i ganfod sut i fesur cynhyrchiant a hyfforddiant priodol mewn perthynas â meysydd trafferthus hysbys. Byddai cam dau yn edrych ar ganlyniadau a datblygu hyfforddiant a mwy o waith. Argymhellodd y pwyllgor y dylid cynnal adolygiad o'r ymchwil sy'n bodoli eisoes ynghyd â phrosiectau a gynhaliwyd â chymorth CITB, gan gasglu gwersi a ddysgwyd er mwyn llywio comisiynau'r dyfodol yn ymwneud â chynhyrchiant. Cytunodd y pwyllgor fod y ffocws ar gynhyrchiant wedi'i gyflwyno'n dda ac y dylid ei symud ymlaen, â phwyslais ar Effeithlonrwydd a Diffygion.
-
Roedd Newidwyr Gyrfa yn perthyn i ddau faes: y rhai hynny a oedd â sgiliau adeiladu trwy sectorau eraill ac y byddai gofynion uwchsgilio ar eu cyfer; a'r rhai hynny â sgiliau y gellid eu trosglwyddo i'r diwydiant adeiladu o sector arall. Rhagwelwyd y gofynnid i'r ceisiadau o dan y comisiwn greu dewis o lwybrau clir ag ymagwedd gynaliadwy. Roedd setiau sgiliau megis rheoli prosiectau yn berthnasol ac yn gofyn am hyfforddiant cyd-destunol ar gyfer trosglwyddo a gweithredu ond byddai'n her fawr i'r diwydiant eu derbyn a'u mabwysiadu. Roedd y ddau bwnc ar gyfer comisiynu yn briodol a chynigiwyd cyfarwyddyd ar ymagweddau i'w cymryd ynghylch eu datblygu.
-
Cytunodd y pwyllgor fod y strwythur comisiynu yn briodol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy ac roedd eu cyfranogiad wedi bod yn amserol. O gofio y byddai'n rhaglen dreigl o waith dros y ddwy flynedd nesaf ac y byddai lefelau uchel o gynllunio ac ymchwil yn ofynnol i lywio'r hyn y dylid ei gomisiynu am y gorau, byddai'r pwyllgor yn croesawu'r ymgysylltu hwn ond ag adolygiad o adborth/sylwadau ar y broses wedi'i datblygu. Roedd yn berthnasol datblygu pynciau i'w hystyried ar gyfer comisiynu posibl ac i gynnwys y pwyllgor er mwyn llywio penderfyniadau yn well er budd y diwydiant.
21 Chwefror 2017
-
Rhoddwyd diweddariad o'r Cynigion Cynllun Grantiau. Cytunwyd ar brifsymiau y Cynllun Grantiau yng nghyfarfod olaf Grŵp Llywio'r Adolygiad Cyllid Buddsoddi. Byddai'r ffocws ar rannu'r cynnig hwn ar draws y diwydiant. Roedd systemau'n cael eu datblygu i integreiddio hyfforddiant yn y safonau. Yna byddai'r rheolau ynghylch sut y byddai pob cynllun yn gweithio, i yrru cyfraddau cyllido a dyrannu, yn cael eu creu. Y bwriad oedd cael rhan fwyaf o'r Cynllun Grantiau newydd ar waith erbyn Ebrill 2018, a rhoddid blaenoriaeth i'r meysydd a ddefnyddir yn drwm. Byddai'r grant, ardoll a'r flwyddyn ariannol CITB yn cael eu halinio, i gyd yn dechrau ar 1 Ebrill 2018. Hysbyswyd y pwyllgor o feysydd gwaith eraill gan gynnwys cyfraddau ariannu, prentisiaethau arbenigol, y cyfle i gael profiad gwaith a'r defnydd o Daliadau Grant Cynnar (EGO), trefniant lle talwyd ardoll ar unwaith a rhyddhawyd taliadau grant yn gynharach. Roedd mater y diffiniad o sefydliadau 'Mewn Cwmpas' yn dal i fod yn broblem oherwydd codid ardoll ar bob cyflogai, ond dim ond cyfran o'r grant y gellid ei hawlio yn ôl mewn grant, yn aml nid yw cyflogeion gwerthu/cymorth yn cael eu cynnwys.
-
Cynhelid ymgynghori â ffederasiynau er mwyn sefydlu sut y byddent yn ymgysylltu â'u pwyllgorau ac yn sicrhau y ceid barnau eu pwyllgorau ynglŷn â chonsensws a chyllid.
-
Cyflwynwyd crynodeb o'r cyllid hyblyg/strwythuredig a'r Cynllun Grantiau. Eglurwyd bod unrhyw Eiddo Deallusol sy'n deillio o'r gweithgareddau hyn yn perthyn i CITB a allai gynnig yr hysbysrwydd/wybodaeth hon i gymuned ehangach trwy gronfa ddata chwiliadwy arfaethedig. Y cysyniad oedd ehangu'r llwyfan hwn er mwyn caniatáu i sefydliadau amlygu eu syniadau cychwynnol cyn cyflwyno cais i chwilio am bartneriaid i gydweithio â nhw. Bu cryn dwf yn y maes Sgiliau a Hyfforddiant, a oedd wedi targedu sefydliadau bach a micro, gan gynnwys y rhai hynny a nodwyd fel rhai anodd eu cyrraedd. Gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried ehangu'r gronfa hon a chyflogwyr â hyd at 1,000 o weithwyr. Cytunodd y pwyllgor, ac eithrio bod angen dull o flaenoriaethu ymgeiswyr. Byddai'r Tîm Gwirio yn samplu'r rhaglenni a chynnal manylion cyfraddau methiant ymysg ystadegau eraill. Byddai cyllid pellach yn cael ei wneud mewn dau randaliad. Rhagwelwyd y byddai mwy o ymgeiswyr yn symud ymlaen trwy'r Cynllun Grantiau yn hytrach na'r gronfa hon. Roedd ymgeiswyr yr Alban a Chymru yn parhau i gynyddu. Derbyniodd Llundain Fawr 60% o'r cyllid cenedlaethol, ond cydnabuwyd y gallai hyn fod wedi'i ystumio oherwydd bod gan nifer o sefydliadau brif swyddfa yn Llundain a gallai'r cyllid fod yn cefnogi cyflogeion yn y rhanbarthau.
-
Cyflwynwyd y gweithgareddau arfaethedig i'r pwyllgor ar gyfer 2017, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddau faes, Cyllid Comisiynu a Chyllid Targedu. Cymeradwywyd y Dadansoddiad Rhanbarthol ar adroddiadau LFT LEP. Roedd y pwyllgor o'r farn bod angen i'r ffenestri cynnig fod yn agored am fwy o amser na'r hyn a gynigiwyd, yn arbennig y bydd y ffenestr gynhyrchiant yn parhau'n agored tan fis Medi, OSAT tan fis Hydref a bydd Dadansoddiad Rhanbarthol yn agored ym mis Medi/Hydref. Bydd ffenestri ariannu'n cael eu diwygio er mwyn adlewyrchu'r cyfnodau a nodwyd. Cymeradwyodd y pwyllgor y tri maes a nodwyd ar gyfer Cyllid Targedu: 1) Cyllid Sgiliau a Hyfforddiant; 2) Ardoll Targedu Prentisiaeth sy'n talu cyflogwyr Mewn Cwmpas; a 3) cyfleoedd i Ffederasiynau gael cyllid. Trafododd y pwyllgor y cyfleoedd ariannu ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn rhai adeiladu. Cytunwyd y gallai goblygiadau ariannu prentisiaethau mewn cyd-destun ehangach fod yn bosibilrwydd ond byddai angen eglurder ynghylch yr hyn y gellid ei ariannu ac na ellid ei ariannu a phwy allai hawlio. Roedd angen ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod y llinellau hyfforddiant yn cael eu huchafu, fodd bynnag ni ddylid dyfarnu cyllid yn eglur os na fodlonwyd y meini prawf.
-
Yn 2016 roedd nifer uchel o geisiadau wedi'u gwrthod dan Gyllid ar gyfer Ymgysylltu ag Addysg, yn bennaf oherwydd lefelau isel o gydweithredu yn y diwydiant a methiant i gyfrif am weithgareddau pan y'i dyfernir. Felly, cynigiwyd gweithredu symudiad tuag at gomisiynu yn 2017, gan ddarparu prifsymiau a chanlyniadau clir o'r cychwyn cyntaf ac ymestyn y cyfle cydweithredu i gynnwys sefydliadau elusennol i gynorthwyo wrth ddarparu atebion. Gofynnodd y pwyllgor y dylid ymchwilio ymhellach i adolygiad o gyfleoedd profiad gwaith cenedlaethol a chyllid.
24 Ionawr 2017
-
Byddai ymgynghori ar y cynnig Ardoll yn cychwyn, ynghyd ag ymgysylltu ar gynnig CITB yn y dyfodol a'r Cynllun Grantiau. Â'r Opsiwn Ardoll wedi'i benderfynu, byddai ymgysylltu ac ymgynghori yn canolbwyntio ar a oedd y cynnig a'r Cynllun Grantiau diwygiedig yn darparu gwerth am arian ar gyfer yr ardoll. Awgrymodd y pwyllgor y dylai'r gwahaniaeth rhwng yr hyn a gefnogir gan yr ardoll CITB a'r Ardoll Brentisiaeth gael ei wneud yn gliriach.
-
Cytunwyd bod angen i CITB ddarparu diffiniad clir o'r hyn a olygir gan weithgareddau mewn cwmpas. Er y gellid cyrchu sgiliau trosglwyddadwy generig megis Rheolaeth ac Arweinyddiaeth o fewn llwybrau hyfforddi, byddai angen i feysydd megis gwerthu a marchnata ddangos eu bod yn benodol i adeiladu.
-
Trafodwyd sut y byddai meysydd eraill sy'n cyd-fynd ag amcanion CITB, megis y gwasanaethau a ddarperir gan sefydliadau fel Women in Construction and Construction Youth Trust, yn cael eu hariannu. Awgrymodd y pwyllgor fod CITB yn ymchwilio ymagwedd gomisiynu/tendro â ffocws ar yr hyn yr oedd am ei gyflawni ac yn gwahodd ceisiadau gan y rhai hynny a hoffai gyflenwi.
-
Cafwyd adborth cadarnhaol ynghylch y bwriad i gefnogi cyflogwyr i hyfforddi ar draws eu cadwyn gyflenwi. Cytunwyd bod prentisiaethau a chymwysterau galwedigaethol yn flaenoriaethau ar gyfer ariannu. Byddai ymchwil CITB yn gallu adnabod sgiliau cyfredol y diwydiant, yr hyn a oedd ar y gweill a pha sgiliau newydd fyddai'n ofynnol. Byddai hyn yn cael ei ddefnyddio i gytuno ar flaenoriaethau a chyllid â'r diwydiant.
-
Byddai cael mynediad at wybodaeth ar sgiliau, trwy'r Gofrestr Hyfforddiant Cenedlaethol, yn helpu i nodi bylchau mewn sgiliau ac felly'n arwain at ymagwedd fwy strategol o ran cynllunio a chyllido. Byddai llwybrau hyfforddi yn cael eu hadolygu'n rheolaidd, a byddai'n rhoi gwybodaeth i gyflogwr ar sgiliau gweithiwr ac felly eu hanghenion hyfforddi. Cytunwyd ar yr prifsymiau dylunio. Roedd adolygiad yn cael ei gynnal gan edrych ar sut y darperir cyllid i'r hyn a enwir Rhaglenni Prentisiaeth Arbenigol ar hyn o bryd. Ar y bryd, roedd prosiect ar waith i adolygu cyllid Rhaglen Brentisiaeth Arbenigol ag amcan i ddod â thryloywder i'r modd yr ariennir yr hyfforddiant. Y nod oedd alinio cyllid â'r cynigion Moderneiddio Grantiau. Pan oedd hyfforddiant yn cael ei gwmpasu gan lwybr hyfforddi, byddai cyllid yn cyd-fynd â'r Cynllun Grantiau, gan gyfrif am gydrannau hyfforddi arbenigol. Roedd yr arian cyfredol yn cynnwys taliad ymlaen llaw i gyflogwyr er mwyn cefnogi darpariaeth. Nid oedd y grant hwn yn cyd-fynd â phrifsymiau newydd y Cynllun Grantiau. Cynigiwyd mai ffordd arall o gefnogi darpariaeth arbenigol oedd i CITB weithio'n uniongyrchol gyda darparwyr arbenigol i gaffael darpariaeth. Dywedwyd bod y gyfradd NVQ wedi'i chodi ar gyfer NVQau y tu allan i brentisiaethau. Roedd gwaith yn cael ei wneud i gael dealltwriaeth gliriach o faint o ddiwrnodau oedd dysgwyr oddi ar y safle.
-
Trafododd y pwyllgor y tri chynnig a gyflwynwyd ar gyfer cyllid prentisiaeth ac opsiynau. Roedd angen gwneud gwaith pellach i ystyried effaith newid mewn meintiau ond rhagwelwyd y byddai hyn yn fach iawn.